Datrys Problemau Mathemateg

Bok av Catherine Yemm
Datrys Problemau Mathemateg - Blwyddyn 6 ydy'r chweched o chwe llyfr yn y gyfres Datrys Problemau Mathemateg. Ysgrifennwyd y llyfrau i athrawon eu defnyddio mewn gwersi mathemateg. Anelir y cynnwys at ddatblygu sgiliau datrys problemau. Anogir plant i ddewis a defnyddio ffeithiau rhif a strategaethau meddwl perthnasol i ddatrys problem fel a nodir yn y Fframwaith Rhifedd Cenedlaethol. Mae'r llyfr hwn wedi'i rannu'n dair pennod; Datblygu ymresymu rhifyddol, Datblygu ymresymu rhifyddol: Adnabod prosesau a chysylltiadau a Defnyddio sgiliau rhif. Cynlluniwyd y llyfrau fel bod gan pob adran chwe cham o gwestiynau i'w hateb. Rhennir pob cam yn dair lefel, er enghraifft 1a, 1b neu 1c, yn seiliedig ar gyrhaeddiad. Mae pob cwestiwn cyfatebol o'r lefelau hyn yn dilyn yr un llinell o gwestiynu, felly pan mae'r athro yn siarad am gwestiwn penodol mae'r broses o ddatrys yr un fath i bob lefel ond mae'r cymhlethdod yn amrywio.