Evan James Williams : Ffisegydd yr Atom

Bok
Dyma gyfrol sy'n rhoi darlun o fywyd a gwaith y ffisegydd o Gymro, yr Athro Evan James Williams, gwr a gafodd ei ddisgrifio fel un o'r gwyddonwyr mwyaf galluog a welodd Cymru erioed. Cymerodd ran flaenllaw yn y chwyldro a ddigwyddodd yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif gyda datblygiad ffiseg cwantwm. Cydweithiodd gyda'r arloeswyr (nifer ohonynt yn enillwyr gwobr Nobel) a gwnaeth gyfraniad nodedig ym maes gwrthdrawiadau atomig - fe'i cydnabyddid fel arbrofwr dyfeisgar a damcaniaethwr disglair, a medrodd ddatblygu diddordeb yn y gronynnau egniol a ddaw o'r gofod, y pelydrau cosmig, gan gyfrannu'n hollbwysig at ddarganfod ac astudio gronyn elfennol newydd. Amlygir ei alluoedd di-gymar rhwng cloriau'r gyfrol, a chyflwynir yn ogystal ddarlun o gymeriad hoffus a thwymgalon na gollodd ei ymlyniad na'i gariad tuag at fro ei febyd a'i diwylliant.